Ar ddydd Gwener y 6ed o Orffennaf, cynhaliwyd Gwborau Cyntaf Aber First Awards yn yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth. Roedd tua 100 o westeion yn bresennol; yn eu plith roedd unigolion o fusnesau lleol ac aelodau o’r gymuned, ynghyd â noddwyr categori a noddwyr cyffredinol eleni, cylchgrawn yr EGO a Phrifysgol Aberystwyth.

Roedd 10 o gategorïau gwobr – cafodd pob categori ei adolygu gan banel annibynnol o feirniaid a ddewisodd dri terfynwr uchel eu cymeradwyaeth ar gyfer pob categori. Estynnwyd gwahoddiad i bob un o’r terfynwyr fod yn bresennol yn y seremoni, a dewisodd y beirniaid un ohonynt fel yr enillydd cyffredinol ar gyfer pob categori, ac yna un fel enillydd y Wobr Gyffredinol.

Bu’r noson yn llwyddiant ysgubol, gyda phawb yn dathlu tref a chymuned Aberystwyth mewn steil. Gobeithiwn fod yr enillwyr a’r holl derfynwyr a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer wedi mwynhau’r noson lawn cymaint ag a wnaeth Menter Aberystwyth, ac rydym yn gobeithio eich gweld chi i gyd y flwyddyn nesaf!

Dyma’r Enillwyr a’r Terfynwyr Uchel eu Cymeradwyaeth:

Yr Enillydd Cyffredinol

Gwyl Seiclo Aberystwyth

Denu Aberystwyth

Noddwyd gan Bythynnod Gwyliau Tynrhelyg

Terfynwyr:

  • Gwyl Seiclo Aberystwyth
  • Rheilffordd Cwmrheidol
  • Arad Goch

Enillydd: Gwyl Seiclo Aberystwyth

Entrepreneur y Flwyddyn

Noddwyd gan No 21 Flowers

Terfynwyr:

  • John a Lynda Williams, Coastal Village
  • Bethan Trevett, The Wonder Bar
  • Haka Entertainment

Enillydd: Haka Entertainment

Gwobr Hyrwyddo’r Celfyddydau

Noddwyd gan The Rock Project

Terfynwyr:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Oriel y Bae
  • Arad Goch

Enillydd: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid

Noddwyd gan Marchnad Ffermwyr Aberystwyth

Terfynwyr:

  • Mandy Pilcher
  • Cymdeithas Gofal: Cynllun Mudoledd Aberystwyth
  • Caffi Sophie Bach

Enillydd: Mandy Pilcher

Ymwybyddiaeth Amgylcheddol

Noddwyd gan Driftwood Designs

Terfynwyr:

  • Carwyn Lloyd-Jones
  • Aberystwyth Beach Buddies
  • Bwyd Dros Ben Aber Food Surplus

Enillydd: Bwyd Dros Ben Aber Food Surplus

Gweithiwr Ifanc y Flwyddyn

Noddwyd gan Coleg Ceredigion

Terfynwyr:

  • Alwenna Jenkins
  • Haf Burrill
  • Phil Nixon

Enillydd: Alexanders Haf Burrill

Gwobr Cyfraniad Cymunedol

Noddwyd gan Eglwys San Mihangel

Terfynwyr:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Parkrun Aberystwyth a Junior Parkrun
  • Fforwm Cymuned Penparcau, Penparcau Community Together (APT)

Enillydd: Parkrun Aberystwyth a Junior Parkrun

Y Defnydd Gorau o Gyfryngau Ar-lein

Noddwyd gan Hughes Architects

Terfynwyr:

  • Conrad’s Cabs
  • Alexanders
  • Tynrhyd

Enillydd: Tynrhyd

Gwobr Clychau Priodas

Noddwyd gan Gwesty’r Marine

Terfynwyr:

  • Priodasau Calon
  • Chez Louise Bridal
  • No 21 Flowers

Enillydd: Priodasau Calon

Gwobr y Gymraeg

Noddwyd gan Gwe Cambrian Web Cyf

Terfynwyr:

  • Coffee #1
  • Arad Goch
  • Siop y Pethe

Enillydd: Arad Goch

Mae Menter Aberystwyth yn falch dros ben o fedru trefnu Gwobrau Cyntaf Aber First Awards bob blwyddyn. Os oes yna unigolyn neu fusnes yn Aberystwyth a’r cyrion sydd, yn ôl eich barn chi, yn haeddu cydnabyddiaeth am yr hyn y maent yn ei wneud, cofiwch eu henwebu ar gyfer Gwobrau Cyntaf Aber First Awards 2019.