Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026

Manylion ac archebion stondinau yn dod yn fuan (canol mis Hydref)

Marchnad bwyd a chrefft 12-7yh

Gyda dros 40 o stondinau ar Stryd y Popty a Festri Capel Seion, mae hon yn farchnad boblogaidd i gychwyn eich siopa Nadolig!

Adloniant ar Stryd y Popty o 12-5yp

Gorymdaith Llusernau o Eglwys San Mihangel am 5.30yh, gyda charolau ac adloniant i ddilyn yn Sgwâr Owain Glyndwr, a throi’r goeden ymlaen!

Diolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhan o’r digwyddiad hwn, os ydych am helpu ni yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Diolch hefyd i Quick Fence Hire am eu cefnogaeth, Clwb Rotary Ardal Aberystwyth am drefnu’r ail lwyfan ac adloniant ar Sgwâr Owain Glyndŵr, yn ogystal â chadw ein Parêd Llusernau’n ddiogel.

Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth am ariannu Menter Aberystwyth, i’n galluogi i drefnu digwyddiadau fel hyn ar gyfer ein cymunedau.