Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau

Gwêl coeden Nadolig Aberystwyth yn cael ei goleuo pob blwyddyn i ddathlu dyfodiad yr orymdaith lusernau sy’n gwneud ei ffordd i lawr o Eglwys St. Michael, Maes Lowri i Sgwar Owain Glyndwr. Mae’r orymdaieth yn cael ei harwain gan Mair a Joseff sydd wedi cael eu dewis yn arbennig gyda pobl yn eu dilyn yn cario eu llusernau gwych sydd yn disgleirio fel sêr yn y tywyllwch.

Er mwyn paratoi ar gyfer yr orymdaieth cynhelir gweithdai penwythnosol sydd yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, heb godi tâl ar gyfer mynediad na ddeunyddiau, i alluogi plant ac oedolion i greu eu llusernau o dan hyfforddiant arbenigol. Rydym wedi gweld llawer o sêr, tipyn o longau a sawl dyn eira dros y blynyddoedd! Mae pob llusern wedi’u goleuo â golau LED.

Mae adloniant i’w weld yn digwydd yn Sgwâr Owain Glyndŵr; Ceir stondinau marchnad, ac wrth gwrs mae gwin cynnes a mins peis ar gael hefyd. Fel y mae’r goeden Nadolig yn goleuo’n cenir carolau yn yr awyr agored sy’n dweud wrth bawb bod y Nadolig ar ei ffordd.