Mae Gwobrau Menter Aberystwyth 2025 yn ôl – gan ddathlu unigolion, sefydliadau a busnesau sy’n gwneud Aberystwyth yn lle mor fywiog ac ysbrydoledig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Gyda 12 categori yn cwmpasu popeth o gynaliadwyedd i chwaraeon, busnesau newydd i arwyr cymunedol, dyma eich cyfle i dynnu sylw at y bobl a’r prosiectau sy’n haeddu clod. P’un a ydych yn enwebu rhywun arall neu eich hun, mae croeso i bawb gymryd rhan.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5 Medi 2025

Categorïau Gwobrau 2025:

  • Gwobr Cynaliadwyedd
  • Gwobr Rhagoriaeth Manwerthu
  • Pencampwr Bwyd a Diod
  • Llysgenhadwr Aberystwyth
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Gwobr y Celfyddydau Creadigol a Llenyddiaeth
  • Pencampwr y Gymraeg
  • Chwaraeon a Llesiant yn y Gymuned
  • Gwobr Ysbryd y Gymuned
  • Masnachwr y Flwyddyn
  • Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Proffesiynol
  • Digwyddiad y Flwyddyn 2024 (Pleidlais gyhoeddus – pleidleisiwch heddiw!)

Gallwch enwebu mewn mwy nag un categori – dim ond sicrhau bod pob cais wedi’i deilwra’n benodol i’r meini prawf perthnasol.

Dewch i ddathlu’r bobl a’r llefydd sy’n gwneud Aberystwyth yn arbennig.

Ewch i dudalen hon i gyflwyno cais neu i bleidleisio nawr..