Mae llwyth o ddigwyddiadau yn digwydd cyn Goleuo’r Dref (Aberystwyth), sydd ar y 1af o Ragfyr, 2018.

Cyn y diwrnod:

1. Helfa Drysor y Coblynnod – ewch ati i chwilota yn ffenestri siopau’r dref am goblynnod coll Siôn Corn. Dewch o hyd i’r 20 coblyn, a dychwelwch y ffurflen ar gefn y daflen i’r Ganolfan Groeso yn yr Amgueddfa. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap, a’u henw’n cael ei gyhoeddi ar noson y Goleuo (01.12.2018). Bydd yr helfa’n dechrau ddydd Llun 5ed Tachwedd, ac yn parhau hyd ddydd Llun 26ed Tachwedd 2018.

2. Gweithdy Llusernau – gweithdy creu llusernau rhad ac am ddim i’r cyhoedd!

Sad 17eg Tach 11yb-4yp
Sul 18fed Tach 11yb-4yp
Sad 24ain Tach 11yb-4yp
Sul 25ain Tach 11yb-4yp

Yn yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth. Dewch i greu llusern ar gyfer ein gorymdaith llysernau blynyddol. Mae croeso cynnes i grwpiau, unigolion a phobl o bob oed a gallu.

Y diwrnod ei hun:

  • Marchnad Ffermwyr ar Rhodfa’r Gogledd o 10yb hyd 3yp
  • Marchnad Nadolig ar Stryd y Popty o 12yp hyd 7.30yh
  • Adloniant ar Stryd y Popty o 3yp hyd 7.30yh
  • Gorymdaith Lusernau gadael Eglwys San Fihangel am 5yp
  • Troi Goleuadau’r Goeden Nadolig & Carolau am 5.30yp
  • Gweithgareddau, Groto Sion Corn a Ffair Grefftau yn Amgueddfa Ceredigion trwy’r dydd