Bwriad Gwobrau Cyntaf Aber yw cydnabod gwaith caled a chyfraniadau eithriadol unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Aberystwyth.
Fel arfer mae cyfanswm o ddeuddeg gwobr sydd wedi’u cynllunio i adlewyrchu categori gwahanol o berfformiad rhagorol ynghyd â Gwobr Busnes Cyffredinol y Flwyddyn.
Bob blwyddyn, cynhelir seremoni ym mis Mehefin i ddathlu Gwobrau Aber yn Gyntaf. Gwahoddir y rhai enwebwyd a’r noddwyr i’r seremoni i gefnogi a dathlu ein cymuned wych.
Os hoffech gael eich ystyried, neu os hoffech enwebu rhywun ar gyfer un o’n gwobrau eleni, ewch i’r adran categorïau i weld beth sy’n addas i chi, neu enwebwch/ neu wneud cais heddiw.
Mae gennym hefyd wobr Pleidlais Gyhoeddus, sef ein Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn. Gallwch bleidleisio am hyd at dri digwyddiad o’r flwyddyn flaenorol. Fel arfer gallwch bleidleisio rhwng mis Mawrth a chanol mis Mai.