Erbyn hyn, byddwn ni yn mis i ffwrdd o ein Ffair Haf! Dylwn ni fod yn brysyr iawn yn paratoi, cynllunio, hysbysebu; ond yn anffodus, does dim gwybod pryd fydd y digwyddiad yna yn digwydd nawr! Ond, roedd y bwrdd eisiau gwneud rhywbeth hwylus yn ei le.
Felly, ni wedi meddwl am rhywbeth hawdd, gyda bach o sbort i ni gyd neud yn ystod y sbel o aros gartref – cynnal cystadleuaeth gwisg ffansi rhith! Iep! Mi fysa ‘na wedi bod cystadleuaeth gwisg ffansi yn ein Ffair Haf, ac y thema oedd O Gwmpas Y Byd. Felly, awni yn ddigidol.
Mae pedwar categori, sef: PLANT, OEDOLION, TEULUOEDD neu BUSNESAU. Ie, busnesau. Hyd yn oed os ydych chi wedi cau ar hyn o bryd, deni eisiau i chi fod yn rhan o’r digwyddiad yma!
Beth sydd angen gwneud?
Gwisgo fyny yn ol i thema, O Gwmpas y Byd! Gallwch creu gwisgoedd, defnyddiwch eich sgiliau creadigol, ailgylchu, beth bynnag! Does dim rheolau cadarn, mond i chi joio.
Rhowch eich lluniau fyny ar y cyfryngau cymdeithasol – er mwyn i ni rhannu yr hwyl ar draws y gymuned! Gallwch unai TAGIO ni (ar Facebook, Instagram neu Trydar), neu defnyddiwch yr hashnod #MENTERFFANSI. Dim ar y cyfryngau cymdeithasol? Gyrrwch eich llun i ni ar ebost: menwww@aber.ac.uk
Byddwn yn beirniadu’r lluniau o 6yh nos Sadwrn 23ain Mai. Mae 4 wobr ar gael hefyd!
Psst… mae teuluoedd yn cynnwys anifeiliaid anwes hefyd mae siwr?