Stondinau Nadolig: Archebu

Cynhelir ein Marchnad Nadolig o 12yp ar y 30ain o Dachwedd 2024. Eleni, yn ôl yr arfer, bydd ein stondinau allanol ar hyd Stryd y Popty lle bydd Siôn Corn yn crwydro, a lle byddwn yn cael adloniant yn y prynhawn.

Gallwn hefyd gynnig stondinau tu fewn i Festri’r Capel, yn arbennig o handi os oes gennych chi eitemau mwy bregus i’w gwerthu (celf ac ati) ac yn poeni am wynt posib.

Bydd y farchnad yn dod i ben am 7yh. Byddwn yn anfon e-bost atoch cyn y digwyddiad ar gyfer eich slotiau cyrraedd, a fydd rhwng 8.30yb ac 11.00yb.

I archebu stondin, llenwch y ffurflen isod. Byddwn yn anfon anfoneb atoch ar wahân.