Marchnad bwyd a chrefft 12-7yh
Gyda dros 30 o stondinau ar Stryd y Popty a Festri Capel Seion, mae hon yn farchnad boblogaidd i gychwyn eich siopa Nadolig!
Adloniant ar Stryd y Popty o 12-5yp
- Rock Project’s Born Ready & Matchstick Army
- Iwcadwli
- Ninth House
- John Alderslade
- Bwca
- Leri Voices
- Côr Gloria
- The Welfare
Gorymdaith Llusernau o Eglwys San Mihangel am 6yh, gyda charolau ac adloniant i ddilyn yn Sgwâr Owain Glyndwr, a throi’r goeden ymlaen!
Diolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhan o’r digwyddiad hwn, os ydych am helpu ni yn y dyfodol, cysylltwch â ni.
Diolch hefyd i Quick Fence Hire am eu cefnogaeth, Clwb Rotary Ardal Aberystwyth am drefnu’r ail lwyfan ac adloniant ar Sgwâr Owain Glyndŵr, yn ogystal â chadw ein Parêd Llusernau’n ddiogel.
Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth am ariannu Menter Aberystwyth, i’n galluogi i drefnu digwyddiadau fel hyn ar gyfer ein cymunedau.