Bydd ein helfa drysor yn ôl eleni gyda gwahaniaeth!

Fel arfer rydyn ni’n cynnal ein helfa tua hanner tymor mis Hydref i fis Tachwedd, ond – mae pobl yn gofyn inni o hyd, pam nad yw’n rhedeg i mewn i dymor yr Ŵyl?

Felly, eleni, mae ein helfa drysor ar agor o 25 Tachwedd hyd at y 23ain o Ragfyr. Rydyn ni eisiau i chi fwynhau’r her, darganfod siopau newydd a chefnogi’n lleol. Sut mae ein helfa drysor yn gweithio? Rydyn ni wedi cuddio 18 o gymeriadau Nadolig gwahanol ar draws siopau yn y dref – mae eu henwau isod, allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd?

Does dim gwobr am ddod o hyd iddyn nhw i gyd, dim ond y boddhad o fynd allan i grwydro ffenestri siopau Aberystwyth, ac efallai galw fewn a chefnogi’n lleol hefyd 🙂

Os ydych am gyflwyno eich atebion isod, gallwn roi gwybod i chi yn y flwyddyn newydd (pan fydd ein coblynnod gwirfoddol yn ôl wrth eu desgiau) os daethoch o hyd iddynt i gyd!