Chwilio am rywbeth hwyl i wneud dros gwyliau’r Pasg?
Beth am roi cynnig ar ein helfa drysor cryptig?
Mae 16 cliw wedi eu cuddio o amgylch Aberystwyth. Mae gan bob cliw lythyren arno, casglwch nhw i gyd, a’u hail-drefnu i ganfod y gair cudd, a chael y cyfle i ennill gwobr!
Bydd pob cliw yn dweud wrthoch ble i fynd i ganfod y lythyren nesaf.
Gallwch ganfod y cliw cyntaf ar fwrdd hysbyseb llyfrgell tref Aberystwyth. Pob lwc!
Cyfeiriad y Llyfrgell: Sgwar y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB.