Newyddion cyffroes! Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer y Gwobrau Cyntaf Aber 2019!

Mae 12 gwobr gyda pob un wedi ei gynllunio i wobrwyo categoriau gwahanol o berfformiad rhagorol, ynghyd â gwobr Busnes y Flwyddyn. Mae hyd at dri busnes yn y rownd derfynol ar gyfer pob categori ac maent yn cael eu dewis trwy broses ddidoli trwyadl cyn llunio rhestr fer, ac yna mae’r ennillydd yn cael ei ddewis gan banel o arbenigwyr anibynnol. Gellir gwneud enwebiad naill ai gan y busnes ei hun neu gan gwsmeriaid/cleientiaid.

Gallwch edrych ar y categoriau yma, neu enwebwch heddiw.

NEWYDD am 2019!

Byddem wrth ein bodd yn dathlu’r digwyddiadau gwych sy’n digwydd yn ardal Menter Aberystwyth, ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd, yn hytrach na’r beirniaid, benderfynu ar hwn. Felly cofiwch pleidleisio heddiw!