Mae Menter Aberystwyth yn gwasanaethu tref Aberystwyth yn ogystal â’r pentrefi cyfagos, cyn belled a Eglwysfach yn y gogledd a Llanrhystud yn y de. Ceir 13 Cyngor Cymuned o fewn ardal weithredu Menter Aberystwyth. Rydym yn gobeithio datblygu partneriaeth gyda phob un o’r Cynghorau hyn ac er mwyn hwyluso’r gwaith penodwyd cynrychiolydd ar ran Cynghorau Cymuned yn Aelod o’r Bwrdd.