{"id":60,"date":"2018-09-28T09:51:58","date_gmt":"2018-09-28T08:51:58","guid":{"rendered":"http:\/\/menter.dev.cambriandev.uk\/?page_id=60"},"modified":"2018-09-28T10:00:36","modified_gmt":"2018-09-28T09:00:36","slug":"amdanom","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/amdanom\/","title":{"rendered":"Amdanom"},"content":{"rendered":"<div class=\"content ue \">\n<h3>Beth yw prif amcanion Menter Aberystwyth?<\/h3>\n<p>Gall Menter Aberystwyth ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau adfywio yn y dref a&#8217;r ardal gyfagos. Cytunoddd y Bwrdd ar yr amcanion canlynol, gan gymryd camau i weithredu arnynt yn y dyfodol agos:<\/p>\n<ul>\n<li>Gweithredu fel eiriolwr a hwyluswr ar gyfer y dref a&#8217;r ardal gyfagos.<\/li>\n<li>Helpu i reoli a gwella gweithrediad y dref.<\/li>\n<li>Hyrwyddo safonau o reoli busnes a gofal cwsmeriaid uwch yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.<\/li>\n<li>Creu a marchnata delwedd arbennig ar gyfer Aberystwyth a&#8217;r ardal gyfagos sy&#8217;n seiliedig ar Gymreictod yr ardal a&#8217;i nodweddion diwylliannol a r\u00f4l y dref fel canolfan sir sy&#8217;n ddiddorol, amrywiol a hardd.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Sut y gall Menter Aberystwyth gyflawni ei hamcanion?<\/h3>\n<p>Fe fydd Menter Aberystwyth yn cyflawni ei hamcanion trwy ennill cefnogaeth y gymuned, gan ddefnyddio&#8217;r gefnogaeth honno i gyfiawnhau ceisiadau am gyllid. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu&#8217;r ystod eang o brosiectau a geir yn ein Cynllun Gweithredu. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn nodi ac yn datblygu prosiectau newydd yn flynyddol. Ymysg rhai o&#8217;r prosiectau yn ein Cynllun Gweithredu am eleni y mae:<\/p>\n<ul>\n<li>Datblygu safle gwe amlwg ar gyfer Aberystwyth a&#8217;r ardal gyfagos;<\/li>\n<li>Datblygu strategaeth ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal;<\/li>\n<li>Gwella canol y dref gydag arwyddion, dehongli, pedestreiddio, trafnidiaeth a pharcio ceir.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Sut yr ariennir Menter Aberystwyth?<\/h3>\n<p>Ariennir Menter Aberystwyth gan Gyngor Tref Aberystwyth ac Prifysgol Aberystwyth. Mae&#8217;r arian hwn yn bennaf yn mynd i dalu costau cynnal swyddfa a chyflog y Swyddog Datblygu a hynny am gyfnod penodol o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn fe fydd Menter Aberystwyth yn ceisio am arian ychwanegol ar gyfer prosiectau, gan helpu grwpiau a busnesau eraill i wneud hyn hefyd. Bydd Menter Aberystwyth hefyd yn edrych i ymestyn ei chyfnod gweithredu trwy ganfod arian ychwanegol a fydd yn ei galluogi i oroesi&#8217;r cyfnod gwreiddiol o dair blynedd. Serch hynny, nid oes modd dosbarthu adnoddau ariannol i fusnesau a grwpiau yn yr ardal.<\/p>\n<h3>Sut mae Menter Aberystwyth yn atebol?<\/h3>\n<p>Gan fod Menter Aberystwyth yn gwmni Cyfyngedig Trwy Warant y mae&#8217;n gweithredu yn sgil ei Femorandwm a&#8217;i Erthyglau Cwmni. Mae Menter Aberystwyth hefyd yn atebol i&#8217;r partneriaid sydd yn ei hariannu gan roi adroddiadau cyson iddynt ar waith prosiect ac unrhyw drafodion busnes. Caiff cyfrifon y cwmni eu harchwilio&#8217;n flynyddol a gellir gwneud cais i gael cop\u00efau o&#8217;r Cynllun Busnes a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd.<\/p>\n<h3>Sut gall Menter Aberystwyth fy helpu?<\/h3>\n<p>Yn ogystal \u00e2 datblygu&#8217;r prosiectau penodol sydd wedi eu rhestru yn y Cynllun Gweithredu, gall Menter Aberystwyth hefyd gynorthwyo grwpiau bychain eraill yn yr ardal i ddatblygu eu prosiectau eu hunain, gan gynorthwyo busnesau a grwpiau eraill i ganfod cyfleon cyllido a chyngor.<\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth yw prif amcanion Menter Aberystwyth? Gall Menter Aberystwyth ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau adfywio yn y dref a&#8217;r ardal gyfagos. Cytunoddd y Bwrdd ar yr amcanion canlynol, gan gymryd camau i weithredu arnynt yn y dyfodol agos: Gweithredu fel eiriolwr a hwyluswr ar gyfer y dref a&#8217;r ardal gyfagos. Helpu i reoli a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-60","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/60","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=60"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/60\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/menter-aberystwyth.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=60"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}