Helfa Trysor Pasg

Rydyn ni’n gwybod faint rydych chi’n mwynhau helfeydd trysor, felly rydyn ni wedi trefnu un ar gyfer gwyliau’r Pasg! Ychydig yn wahanol i’r un Nadolig, mae’r helfa hon yn mynd â chi o amgylch strydoedd Aberystwyth, gan eich annog i chwilio am y nodweddion bach na fyddech efallai yn sylwi arnynt yn eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae gennym ni 3 x £20 o dalebau i’w cynnig i chi gael mynd i gaffi Alana ar Lan y Môr! Tynnir enillwyr ar hap o’r ceisiadau cywir.

Ceisiadau trwy ein ffurflen ar-lein. Y terfyn amser yw’r 11eg o Ebrill am 7yh. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen Facebook a byddwn yn cysylltu â nhw trwy e-bost ar y 16eg o Ebrill.

Llawrlwythwch y map a’r cwestiynau yma.

Defnyddiwch y ffurflen isod i yrru eich atebion i ni: