Categorïau

Mae croeso i chi enwebu neu ceisio am mwy nag un gowbr, ond cofiwch llenwi’r ffurflen i fewn gyda’r gwybodaeth perthansol cywir. Gyda’r gwybodaeth hyn fydd y penderfyniadau yn cael ei gwneud.

DYDDIAD CAU: 30/04/2023

.

Y Wobr Werdd

Ydych chi’n adnabod pencampwr amgylcheddol? Rydym am ddathlu mentrau gwyrdd gan unigolion a grwpiau yn y gymuned leol.

Y Wobr Werthu

Gwneud rhagoriaeth o fewn ardal Menter Aberystwyth i fusnesau sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau. Ydych chi wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol neu brofiad siopa gwych? Rydyn ni eisiau gwybod!

Gwobr Bwyd a Diod

Dathlu’r caffis, y bariau, y bwytai a’r cogyddion yn Ardal Menter Aberystwyth sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Gwobr Annog Cymuned

Dwedwch wrthym am fusnesau a sefydliadau ble mae eu gweithredoedd gwella ein cymuned leol – rydym am ddathlu’r hyn y maent yn ei wneud!

Gwobr Dathlu Busnes Newydd

Mae’r wobr hon yn tynnu sylw at gyflawniadau busnesau newydd sydd wedi bod ar agor am 3 blynedd neu lai.

Gwobr Celf a Llenyddiaeth

Agored I unrhyw un sy’n hyrwyddo’r celfyddydau gweledol neu berfformio megis: awduron, lleoliadau, cerddoriaeth, corau, grwpiau dawns, dosbarthiadau celf a mwy.

Gwobr Iaith Gymraeg

Ar agor i unigolion (gan gynnwys dysgwyr ac athrawon), busnesau a sefydliadau sy’n dathlu ac yn cefnogi’r Gymraeg yn yr ardal.

Arwr Cymunedol

Ydych chi’n gwybod am rywun sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i’r gymuned? Rydym am ddathlu’r arwyr hynny!

Gwobr Twristiaeth

Dathlu busnesau sy’n gweithio i wneud Aberystwyth yn gyrchfan wych i ymwelwyr.

Buddsoddi yn yr Ifanc

Ydych chi’n adnabod unigol, mudiad neu grwp sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd person ifanc neu bobl ifanc? O athrawon i gynorthwywyr addysgu, arweinwyr grwpiau ieuenctid ac eraill, gadewch i ni ddathlu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc ein cymuned.

.

Gwobr Cefnogi Pobl

Ar gyfer busnesau, elusennau a sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth i bobl yn ardal Menter Aberystwyth, megis gofal, eiriolaeth a chyngor, diwrnodau seibiant a digwyddiadau.

Digwyddiad y Flwyddyn 2022

Cyfle i chi, ein cyhoedd bleidleisio ar eich digwyddiad y flwyddyn 2022!

[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Button_Widget”][/siteorigin_widget]