30fed Mehefin 2022!

Mae Gwobrau Cyntaf Aber wedi eu cynllunio i gydnabod gwaith caled a cyfraniad eithriadol sydd yn cael ei ddangos gan unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Menter Aberystwyth.

Mae 12 gwobr eleni, gyda pob un wedi ei ddylunio i wobrwyo categoriau gwahanol o berfformiad rhagorol, ynghyd â gwobr Busnes y Flwyddyn. Mae hyd at dri busnes yn y rownd derfynol ar gyfer pob categori ac maent yn cael eu dewis trwy broses ddidoli trwyadl, creu rhestr fer, a dewis enillwyr gan banel o arbenigwyr anibynnol. Gellir gwneud enwebiad naill ai gan y busnes ei hun neu gan gwsmeriaid/cleientiaid.

Llynedd, cynhaliwyd y gwobrau yng Nghanolfan y Celfyddydau, gyda tua 70 o westeion o fusnesau, teuluoedd a mudiadau lleol ar bigau’r drain i wybod pwy oedd yr ennillwyr yn y 10 categori o wobrau. Diddanodd Ioan Guile, yr MC y gynulleidfa yn ystod y gwobrwyo.

Os hoffech ymgeisio neu enwebu rhywun am unrhyw un o’n 12 gwobr eleni, defnyddiwch y botymau isod.

Byddem wrth ein bodd yn dathlu’r digwyddiadau gwych sy’n digwydd yn ardal Menter Aberystwyth, ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd, yn hytrach na’r beirniaid, benderfynu ar hwn. Felly cofiwch bleidleisio heddiw!

 
[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Button_Widget”][/siteorigin_widget]
[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Button_Widget”][/siteorigin_widget]