Gwobr Paul James 2019

Mae Menter Aberystwyth yn falch o gyhoeddi gwobr newydd: Gwobr Paul James, i gydnabod bywyd o ymrwymiad i’r gymuned.

Rydym wedi derbyn llawer o enwebiadau ar gyfer y diweddar cynghorydd Paul James ar gyfer y wobr “Cyfraniad i’r Gymuned” yn y Gwobrau Cyntaf Aber eleni. Mae’n amlwg fod gan y gymuned lleol andros o barch tuag at Paul a’i waith, a rydym fel bwrdd Menter Aberystwyth eisiau cydnabod a coffàu hyn mewn ffordd arbennig.

Wedi trafod gyda teulu Paul, byddem yn dechrau gwobr newydd eleni er anrhydedd Paul. Caiff y wobr ei enwi ar ôl Paul, a bydd yn cydnabod unigolion sydd, fel Paul, wedi ymroi yn llawn i’r gymuned, ag yn y blynyddoedd i ddod, bydd o’n yn cael ei gyflwyno os yw’r panel barnu yn teimlo fod derbynnydd teilwng.