Helfa Trysor Pengwin

MAE CEISIADAU WEDI CAU – DIOLCH I CHI AM FOD YN RHAN O’R HELFA TRYSOR!

Rydym wedi cuddio tri deg (ie, tri deg) pengwin yn ffenestri siopau a busnesau o amgylch Aberystwyth. Eleni, mae gennym rai lleoedd tu allan i ganol Aberystwyth,ac rydym yn gwybod bod yr helfa yn fwy anodd nag o’r blaen! Mae hyn yn golygu nad ydym yn disgwyl i bawb gael pob un o’r tri deg pengwin felly anfonwch eich cofnod hyd yn oed os nad oes gennych chi i gyd – gallwch dal fod yn enillydd!

Bydd gwobrau i’r rhai sy’n dod o hyd i bymtheg, ugain neu dri deg o bengwiniaid. Os oes gennym lawer o geisiadau ar bob lefel, byddwn yn tynnu enillwyr o het, fel o’r blaen.

Byddwn yn cyhoeddi’r ennillwyr yn ystod ein digwyddiad rhith: Nadolig – Goleuo’r Dref ar y 5ed o Ragfyr, byddwn yn cysylltu gyda chi ar gyfer cludo (neu casglu) eich gwobr.