Allwn ni ddim cynnal ein gweithdai arferol eleni, ond byddem yn dal wrth ein bodd i chi gymryd rhan mewn creu llusernau beth bynnag! Er na fyddwn yn cynnal gorymdaith chwaith, byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau o’r llusernau a wnewch. Anfonwch e-bost atom, neu tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol!
Yn hytrach na’n gweithdai, rydym yn llunio pecynnau gwneud llusernau AM DDIM i chi, a bydd gennym hefyd gyfarwyddiadau a fideo i ddangos i chi sut mae gwneud nhw! Os hoffech dderbyn pecyn, llenwch y wybodaeth isod a byddwn yn cysylltu’n fuan.
Bydd eich pecyn yn cynnwys helyg, papur, glud PVA a goleuadau sy’n cael ei weithredu gan fatri. Bydd angen i chi ddarparu tâp.
Rydym yn gobeithio gallu dosbarthu rhai pecynnau, a bydd rhai ar gael i’w casglu o leoliad yn Aberystwyth, ac o Hwb Penparcau. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu casglu/dosbarthu.
Ie! Hoffwn wneud llusern gyda Menter Aberystwyth y Nadolig hwn.